Skip to main content

https://publicguardian.blog.gov.uk/2019/05/13/improving-how-we-support-adults-at-risk/

Improving how we support adults at risk

Posted by: , Posted on: - Categories: Attorneys, Deputies, OPG Team, Safeguarding

[English] - [Cymraeg]

 

Our new safeguarding strategy supports our safeguarding policy. It emphasises the importance for us to work closely with other agencies who have a safeguarding duty and ensure they are aware of the work we do under the Mental Capacity Act (MCA) 2005.

The Care Act 2014 and the Social Services and Wellbeing Act (Wales) 2014 set out a legal framework for how local authorities and other agencies should protect adults at risk of abuse or neglect. Although these acts do not outline responsibilities for OPG, we want to be closely linked with local authorities, the NHS and the police.

How we developed our strategy

In 2017, we conducted a survey of 2000 professionals in the health and care sectors, the police service and local authorities to see what they understood about OPG. People told us that they knew about powers of attorney, but they did not fully understand the role we play in protecting adults at risk. They also told us they’re not aware of the full range of services we provide.

Our vision is to become an important safeguarding partner that protects people who lack mental capacity, giving them the guidance and services they need to plan for their future.

To achieve this, we have five goals. These are to:

  • increase understanding among safeguarding partners of our role and responsibilities
  • work more closely with safeguarding partners to prevent concerns arising, and deal with them when they have been brought to our attention
  • use a ‘no wrong door’ approach to deal with all concerns that are reported to us
  • further improve our internal working culture to put the needs of our users first
  • provide greater support for our users

Safeguarding is everyone's business

Our safeguarding strategy isn’t a radical change, but a stepping up of our role in working with other agencies in this area. We already have good relationships with these organisations, but we want to do more to help frontline professionals work closer with us. We want to help them to understand the roles and responsibilities of attorneys and deputies, and when to consult them. We also would like to ensure they know when and how to search our registers to find the details of someone’s appointed deputy or attorney, if they need to.

We already signpost concern raisers to other agencies when we cannot legally investigate. But our strategy commits us to improving our processes so that there is ‘no wrong door’. What this means is we will look to support people who raise concerns, even those which we do not have the legal power to deal with.

Safeguarding will always be at the heart of what we do. In the long term, our aim is to manage LPAs online to provide greater flexibility on how a LPA works for donors and attorneys. As we develop our services, we will make sure any changes mean we continue to offer the same high standards of safeguarding as we offer today. We will be also careful to make sure that our services remain inclusive and are accessible to all of our customers.

How we can all work together

Here’s how you can work with us to help support our strategy:

  • Make sure you search our register to find out if the adult at risk you’re working with has a lasting/enduring power of attorney or a deputy court order. Please ensure you consult with their attorney or deputy when appropriate.
  • Make sure that if you’re presented with a lasting or enduring power of attorney it is legally valid.
  • Contact us immediately if you see signs of abuse or neglect by an attorney or deputy.

If you’d like to talk with us about our engagement plans in more details, please contact our customer relationship management team.

 

[English] - [Cymraeg]

Gwella sut rydym yn cefnogi oedolion mewn risg

Mae ein strategaeth ddiogelu newyddyn cefnogi ein polisi diogelu. Mae'n pwysleisio pa mor bwysig ydyw i ni weithio'n agos gydag asiantaethau eraill sydd âdyletswydd i ddiogelu a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Bu i Ddeddf Gofal 2014 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 osod fframwaith cyfreithiol ar sut y dylai awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill amddiffyn oedolion sydd mewn risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Er nad yw'r deddfau hyn yn amlinellu cyfrifoldebau ar gyfer OPG, rydym eisiau bod âchyswllt agos gydag awdurdodau lleol, y GIG a'r heddlu.

Sut y bu i ni ddatblygu ein strategaeth

Yn 2017, bu i ni gynnal arolwg gyda 2000 o weithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal, gwasanaeth yr heddlu ac awdurdodau lleol i weld beth roeddynt yn ei ddeall am waith OPG. Dywedodd yr unigolion wrthym eu bod yn gwybod am atwrneiaethau, ond nad oeddynt yn llwyr ddeall y rôl rydym yn chwarae i amddiffyn oedolion mewn risg. Dywedont hefyd nad oeddynt yn ymwybodol o'r amrediad llawn o wasanaethau yr ydym yn eu darparu.

Ein dyhead yw dod yn bartner diogelu pwysig sy'n amddiffyn unigolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol, gan roi iddynt yr arweiniad a'r gwasanaethau y maent eu hangen i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.

I gyflawni hyn, mae gennym bum nod. Y rhain yw:

  • cynyddu dealltwriaeth ymysg partneriaid diogelu o'n rôl a'n cyfrifoldebau
  • gweithio'n agosach â phartneriaid diogelu i atal pryderon godi a delio ânhw pan maent wedi cael eu dwyn i'n sylw
  • defnyddio dull 'does dim drws anghywir' i ymdrin âphryderon sy'n cael eu hadrodd i ni.
  • gwella ein diwylliant gwaith mewnol ymhellach er mwyn rhoi anghenion ein defnyddwyr yn gyntaf.
  • rhoi mwy o gefnogaeth i'n defnyddwyr

Mae diogelu'n gyfrifoldeb i bawb

Nid yw ein strategaeth ddiogelu yn newid radical, ond mae hytrach yn gam pellach ymlaen i weithio gydag asiantaethau eraill yn y maes hwn. Mae gennym berthnasau da yn barod gyda'r sefydliadau hyn, ond rydym eisiau gwneud mwy i helpu gweithiwyr proffesiynol rheng flaen i weithio'n agosach â ni. Rydym eisiau eu helpu i ddeall rolau a chyfrifoldebau twrneiod a dirprwyon a phryd i ymgynghori ânhw. Hoffwn hefyd sicrhau eu bod yn gwybod pryd a sut i chwilio ein cofrestrau i ddod o hyd i fanylion y sawl sydd wedi ei benodi yn ddirprwy neu'n dwrnai i unigolyn, os ydynt angen iddynt wneud hynny.

Rydym yn barod yn cyfeirio'r rhai âphryderon at asiantaethau eraill pan na allwn ymchwilio i'w pryder yn gyfreithlon. Ond mae ein strategaeth yn ein hymrwymo i wella ein prosesau fel nad oes 'unrhyw ddrws anghywir'. Beth mae hyn yn ei olygu yw y byddwn yn edrych i gefnogi pobl sy'n codi pryderon, hyd yn oed y rhai hynny nad oes gennym y pŵer cyfreithiol i ddelio ânhw.

Bydd diogelu wastad wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud. Yn yr hirdymor, ein nod yw rheoli atwrneiaethau arhosol ar-lein i gynyddu hyblygrwydd o ran sut mae atwrneiaeth arhosol yn gweithio i roddwyr a thwrneiod. Fel y byddwn yn datblygu ein gwasanaethau, byddwn yn gwneud yn siŵr bod unrhyw newidiadau yn golygu ein bod yn parhau i gynnig yr un safonau diogel uchel ac yr ydym yn eu cynnig heddiw. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau i fod yn gynhwysol a'u bod ar gael i'n holl gwsmeriaid.

Sut y gallwn weithio gyda'n gilydd

Dyma sut y gallwch weithio âni i gefnogi ein strategaeth:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio ein cofrestri ddarganfod a oes gan yr unigolyn mewn risg yr ydych yn gweithio ag ef/â hi atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus neu orchymyn llys dirprwyol. Os gwelwch yn dda, sicrhewch eich bod yn ymgynghori gyda’u twrnai neu ddirprwy pan fo hynny’n briodol
  • Os ydych yn cael eich cyflwyno ag atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus gwnewch yn siŵr ei fod yn gyfreithiol ddilys
  • Cysylltwch gyda ni ar unwaithos ydych chi'n gweld arwyddion o gam-drin neu esgeulusodd gan dwrnai neu ddirprwy

Os hoffech siarad âni am ein cynlluniau ymgysylltu mewn mwy o fanylder, cysylltwch â'n tîm rheoli perthnasau cwsmeriaid.

Sharing and comments

Share this page