Skip to main content

https://publicguardian.blog.gov.uk/2016/12/05/improving-opgs-web-pages-for-welsh-speakers/

Improving OPG’s web pages for Welsh-speakers

Posted by: , Posted on: - Categories: Attorneys, Deputies, General, Guidance, OPG Team


[English] - [Cymraeg]

Welsh dragonWales is a nation with a language – one spoken by around a quarter of the population – but finding information in Welsh can be difficult, especially if you’re seeking it from an organisation based outside Wales.

The Office of the Public Guardian (OPG) has jurisdiction in England and Wales, and as such has a duty to supply information in Welsh to people who need it.

We take this responsibility very seriously, and over the past few years we’ve been steadily increasing the amount of Welsh-language guidance available on GOV.UK. To support this work, I’ve also been learning Welsh as part of my administrative role with the OPG editorial team.

Yet, despite the increase in Welsh content, until now, users have found it difficult to find the pages they are looking for. We’ve often had to host Welsh documents on English-language pages, and not everything has been translated.

We’re working to improve this situation. Our goal is to provide an end-to-end navigation in Welsh of our online forms and guidance. To achieve this, we‘ve published a ‘hub’ page – in Welsh – linking to all our Welsh documents. This includes not only the power of attorney and deputy publications that most of our users will be looking for, but OPG’s annual reports and policy statements, too.

To improve things further, we’re creating HTML (web-friendly) pages of our guidance in Welsh

In 2015, a survey found that 85% of people in Wales believe that the language is something to be proud of – and the 2011 census showed that the percentage of Welsh children aged 5-15 able to speak the language has doubled since 1981.

At OPG, we’re pleased to be able to offer our services in a way that supports the linguistic heart of the Welsh nation.


[English] - [Cymraeg]

Gwella tudalennau gwe Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer siaradwyr Cymraeg

‘Cenedl heb iaith, cenedl heb galon’, fel y dywed yr hen ddihareb.

Mae Cymru yn genedl sydd ag iaith - un a siaredir gan tua chwarter o'r boblogaeth - ond gall dod o hyd i wybodaeth yn y Gymraeg fod yn anodd, yn enwedig os ydych yn chwilio am wybodaeth gan sefydliad y tu allan i Gymru.

Mae gan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus awdurdodaeth yng Nghymru a Lloegr, ac fel y cyfryw mae ganddi ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth yn Gymraeg i bobl sydd ei hangen.

Rydyn ni’n ystyried y cyfrifoldeb hwn fel mater difrifol, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn cynyddu'n raddol faint o ganllawiau Cymraeg sydd ar gael ar GOV.UK. I ategu'r gwaith hwn, rwyf hefyd wedi bod yn dysgu Cymraeg fel rhan o’m rôl weinyddol gyda thîm golygyddol Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Eto i gyd, er gwaethaf y cynnydd yn y cynnwys Cymraeg, hyd yn hyn, mae defnyddwyr wedi ei chael yn anodd dod o hyd i'r tudalennau maen nhw’n chwilio amdanyn nhw. Rydyn ni’n aml yn wedi gorfod rhoi dogfennau Cymraeg ar dudalennau Saesneg, ac nid yw popeth wedi ei gyfieithu.

Rydyn ni'n gweithio i wella'r sefyllfa hon. Ein nod yw darparu ffordd o lywio o un pen i’r llall drwy ein ffurflenni a’n canllawiau ar-lein yn Gymraeg. Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi tudalen ‘hwb’ – yn Gymraeg – sy'n cysylltu â’n holl ddogfennau Cymraeg. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys y cyhoeddiadau pŵer atwrnai a dirprwy y bydd y rhan fwyaf o'n defnyddwyr yn chwilio amdanyn nhw, ond hefyd adroddiadau blynyddol a datganiadau polisi Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

I wella pethau ymhellach, rydyn ni’n creu tudalennau HTML (gwe-gyfeillgar) o’n canllawiau yn Gymraeg

Yn 2015, canfu arolwg fod 85% o bobl yng Nghymru yn credu fod yr iaith yn rhywbeth i fod yn falch ohoni - a dangosodd cyfrifiad 2011 bod canran plant Cymru rhwng 5 ac 15 oed sy’n gallu siarad yr iaith wedi dyblu er 1981.

Yn Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rydyn ni’n falch o allu cynnig ein gwasanaethau mewn ffordd sy'n cefnogi calon ieithyddol cenedl Cymru.

Sharing and comments

Share this page