[English] - [Cymraeg]
We have simplified the process we follow after being notified that someone has died.
We now verify deaths using the Life Event Verification system, so there is no longer a need for people to send in a death certificate unless we specifically ask for it.
The Life Event Verification System is used across government and is a safe and efficient way to confirm deaths. However, we may need to see a copy of the death certificate if there are any issues with verifying a death.
You can find out more about what this process looks like in our published practice note.
When to let OPG know if someone passes away
We need to be notified following the death of:
• A donor of a registered Enduring or Lasting Power or Attorney
• An attorney acting under a registered Enduring or Lasting Power of
Attorney
• A replacement attorney
• A deputy appointed by the Court of Protection
• Someone for whom the Court of Protection has appointed a deputy
• A High Court-appointed guardian or missing person
It’s important we are informed of the death of a donor, attorney, deputy, or guardian so we can ensure the relevant documents are updated or cancelled as appropriate, and our register is updated.
What happens when you notify OPG of a death
It can be a difficult time when someone dies, so we have tried to make the process as simple as possible.
• Notify us of a death by email, telephone or letter
• Return the original LPA or EPA to us so that we can process any updates or cancellations
• We will use the Life Event Verification system to verify the death and then write to the relevant person to acknowledge this
• We will confidentially dispose of any cancelled LPA or EPA
• If a court appointed deputy or guardian passes away, we will advise what action should be taken next. If a new deputy is needed, we will let the relevant local authority know so they can help with this. If a new guardian is needed, we will let the relevant parties know so that they can take appropriate action
If you are struggling following the death of a loved one, you can find details of help and support locally here.
If you have any further questions about any of the above, you can email us at customerservices@publicguardian.gov.uk or call us on 0300 456 0300.
[English] - [Cymraeg]
Proses symlach ar gyfer cadarnhau marwolaeth rhoddwr, atwrnai, dirprwy neu warcheidwad
Rydym wedi symleiddio’r broses a ddilynwn ar ôl cael gwybod bod rhywun wedi marw. Rydym nawr yn gwirio marwolaethau drwy ddefnyddio system Dilysu Digwyddiadau Bywyd Swyddfa’r Post (HMPO). O ganlyniad, nid oes angen i bobl anfon tystysgrif marwolaeth atom oni bai ein bod yn gofyn yn benodol amdani.
Defnyddir y System Dilysu Digwyddiadau Bywyd ar draws y llywodraeth ac mae’n ffordd ddiogel ac effeithlon o gadarnhau marwolaethau. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni weld copi o’r dystysgrif marwolaeth os oes unrhyw broblemau gyda’r broses o gadarnhau marwolaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ar gael yn ein nodyn ymarfer. (Link to gov.uk practice note)
Pryd i roi gwybod i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus os bydd rhywun yn marw
Mae angen rhoi gwybod i ni yn dilyn marwolaeth un o’r canlynol:
- Rhoddwr Atwrneiaeth Arhosol neu Atwrneiaeth Barhaus gofrestredig
- Atwrnai sy’n gweithredu o dan Atwrneiaeth Barhaus neu Atwrneiaeth
Arhosol gofrestredig
- Atwrnai wrth gefn
- Dirprwy wedi’i benodi gan y Llys Gwarchod
- Rhywun y mae’r Llys Gwarchod wedi penodi dirprwy ar ei gyfer
- Gwarcheidwad a benodwyd gan yr Uchel Lys neu unigolyn coll
Mae’n bwysig ein bod yn cael gwybod am farwolaeth rhoddwr, atwrnai, dirprwy neu warcheidwad er mwyn i ni allu sicrhau bod y dogfennau perthnasol yn cael eu diweddaru neu eu canslo fel y bo’n briodol, a bod ein cofrestr yn cael ei diweddaru.
Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn rhoi gwybod i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus am farwolaeth
Gall fod yn gyfnod anodd pan fydd rhywun yn marw, felly rydym wedi ceisio gwneud y broses mor syml â phosibl.
- Rhowch wybod i ni am farwolaeth drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy lythyr
- Dylech ddychwelyd yr Atwrneiaeth Arhosol neu’r Atwrneiaeth Barhaus wreiddiol atom er mwyn i ni allu prosesu unrhyw ddiweddariadau neu eu canslo
- Byddwn yn defnyddio’r system Dilysu Digwyddiadau Bywyd i gadarnhau’r farwolaeth ac yna’n ysgrifennu at y person perthnasol i gydnabod hyn
- Bydd unrhyw Atwrneiaeth Arhosol neu Atwrneiaeth Barhaus a gaiff ei chanslo yn cael ei gwaredu’n gyfrinachol
- Os bydd dirprwy neu warcheidwad a benodir gan y llys yn marw, byddwn yn rhoi gwybod i chi pa gamau y dylid eu cymryd nesaf. Os oes angen dirprwy newydd, byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol perthnasol er mwyn iddynt allu helpu gyda hyn. Os oes angen gwarcheidwad newydd, byddwn yn rhoi gwybod i’r partïon perthnasol er mwyn iddynt allu cymryd y camau priodol
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd dygymod â cholli rhywun annwyl, mae manylion cymorth a chefnogaeth ar gael yn lleol yma.
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau ynglŷn â’r uchod, e-bostiwch ni ar customerservices@publicguardian.gov.uk neu ein ffonio ar 0300 456 0300