[English] - [Cymraeg]

Once a lasting power of attorney (LPA) has been registered, donors and attorneys can create an account to give organisations access to view the details of that LPA online. This allows banks, healthcare providers and other selected organisations to see the details of the LPA, including information like the donor and attorney information, how decisions are made, and any instructions and preferences.
The Use a lasting power of attorney (Use an LPA) service launched in July 2020 and so far, two million LPAs have been added into the service. We have continued to develop the service in response to feedback, enabling more LPAs to be registered and more details to be visible.
Andy Tovey, Head of Modernising Lasting Powers of Attorney Business Readiness, said:
“The Use an LPA service has been widely embraced by customers, with the majority finding it easy and efficient to use. Seeing how many people are using the service is reassuring and we are working with other organisations to ensure our customers are being supported throughout the process. At OPG, we are striving to continue improving our services to become fit for the future.”
How it works
Once an LPA is registered, attorneys and donors are sent an activation key and an LPA reference number. If required, new activation keys can be requested through the Use an LPA service. These are explained in this video, codes and reference numbers for your LPA:
To access the service, donors or attorneys need a GOV.UK One Login account – this is a new way of signing into government services, including Use an LPA. If you don't yet have an account, there is a step-by-step guide on how to set one up on the GOV.UK Use an LPA page.
After a donor or attorney has created an account online, LPAs can be added to the account. A donor or attorney can then make a secure access code which they give to organisations to view an online summary of an LPA and keep track of which organisations have had access.
Quicker, easier and more secure than sharing your paper LPA
There are many benefits to using the online service:
- it’s quicker and easier for attorneys to support the donor as both can use the service
- no need for multiple copies of an LPA
- allows organisations instant access to the LPA details so less waiting
- all of the key information is in one place
- saves paper and postage
- it's a safe and secure way to give organisations access and track where the LPA has been shared
Kamlesh Samji, a donor with experience of the Use an LPA service, talks about how it has benefitted him. He said:
“The Use a Lasting Power of Attorney service is easy and straight-forward to use and saves lots of time compared to previous methods of sharing LPA details.
Managing which organisations have seen the LPA summary is a great feature and I am confident that my information and data is safe and secure. I would absolutely recommend this service.”
Eligible LPAs
Donors and attorneys with LPAs registered on or after 1 January 2016 can use the online service.
Learn more
You can learn more about use an LPA and view an LPA in our blog series.
To get started straight away, visit:
[English] - [Cymraeg]
Ychwanegwyd dwy filiwn o atwrneiaethau arhosol at y Gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol ar-lein

Ar ôl cofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA), gall rhoddwyr ac atwrneiod greu cyfrif fel bod sefydliadau yn gallu gweld manylion yr atwrneiaeth arhosol honno ar-lein. Mae hyn yn galluogi banciau, darparwyr gofal iechyd a sefydliadau dethol eraill i weld manylion yr atwrneiaeth arhosol, gan gynnwys gwybodaeth am y rhoddwr a’r atwrnai, sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, ac unrhyw gyfarwyddiadau a dewisiadau.
Lansiwyd y gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol (LPA) ym mis Gorffennaf 2020, a hyd yma mae dwy filiwn o atwrneiaethau arhosol wedi cael eu hychwanegu at y gwasanaeth. Rydym wedi parhau i ddatblygu’r gwasanaeth mewn ymateb i adborth, sy'n golygu bod modd i fwy o atwrneiaethau arhosol gael eu cofrestru a bod mwy o fanylion ar gael.
Dywedodd Andy Tovey, Pennaeth Moderneiddio Parodrwydd Busnes Atwrneiaethau Arhosol:
“Mae’r gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol wedi cael ei groesawu’n eang gan gwsmeriaid, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn teimlo ei fod yn effeithlon ac yn hawdd ei ddefnyddio. Mae’n galonogol gweld faint o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i wneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses. Yn Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rydym yn ymdrechu i barhau i wella ein gwasanaethau er mwyn bod yn barod at y dyfodol.”
Sut mae’n gweithio
Pan fydd atwrneiaeth arhosol yn cael ei chofrestru, bydd atwrneiod a rhoddwyr yn cael allwedd actifadu a rhif cyfeirnod yr atwrneiaeth arhosol. Os oes angen, gellir gwneud cais am allweddi actifadu newydd drwy’r gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol.
I gael mynediad at y gwasanaeth, mae rhoddwyr neu atwrneiod angen cyfrif GOV.UK One Login – dyma ffordd newydd o fewngofnodi i wasanaethau’r llywodraeth, gan gynnwys Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol. Os nad oes gennych gyfrif eto, mae canllaw cam wrth gam ar sut i greu un ar dudalen Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol GOV.UK.
Ar ôl i roddwr neu atwrnai greu cyfrif ar-lein, gellir ychwanegu atwrneiaethau arhosol at y cyfrif. Yna gall rhoddwr neu atwrnai lunio cod mynediad diogel y byddant yn ei roi i sefydliadau i weld crynodeb ar-lein o atwrneiaeth arhosol ac olrhain pa sefydliadau sydd wedi cael mynediad.
Mae’n gyflymach, yn haws ac yn fwy diogel na rhannu eich atwrneiaeth arhosol ar bapur
Mae llawer o fanteision yn gysylltiedig â defnyddio’r gwasanaeth ar-lein:
- mae’n gyflymach ac yn haws i atwrneiod gefnogi’r rhoddwr oherwydd gall y ddau ddefnyddio’r gwasanaeth
- nid oes angen mwy nag un copi o atwrneiaeth arhosol
- mae’n golygu bod sefydliadau’n gallu cael mynediad ar unwaith at fanylion yr atwrneiaeth arhosol, felly mae llai o amser aros
- mae’r holl wybodaeth allweddol mewn un lle
- mae’n arbed papur a chostau postio
- mae’n ffordd ddiogel o roi mynediad i sefydliadau a’r gallu i olrhain ble mae’r atwrneiaeth arhosol wedi cael ei rhannu
Mae Kamlesh Samji, rhoddwr sydd â phrofiad o’r gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol, yn sôn am sut mae wedi bod o fudd iddo. Dywedodd:
“Mae’r gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol yn syml ac yn hawdd ei ddefnyddio ac mae’n arbed llawer o amser o’i gymharu â’r dulliau blaenorol o rannu manylion Atwrneiaethau Arhosol.
Mae rheoli pa sefydliadau sydd wedi gweld crynodeb yr atwrneiaeth arhosol yn nodwedd wych ac rwy’n hyderus bod fy ngwybodaeth a’m data yn ddiogel. Byddwn i’n bendant yn argymell y gwasanaeth hwn.”
Atwrneiaethau Arhosol Cymwys
Gall rhoddwyr ac atwrneiod gydag atwrneiaethau arhosol sydd wedi’u cofrestru ar 1 Ionawr 2016, neu ar ôl hynny, ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch ddysgu mwy am ddefnyddio atwrneiaeth arhosol a gweld atwrneiaeth arhosol yn ein cyfres o flogiau.
I ddechrau arni ar unwaith, ewch i:
Leave a comment